Cymru. Pêl-droed. Creadigrwydd.
Ymuna â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu Gŵyl Cymru 2024!
Pa ffordd well o ddathlu Cymru na thrwy fwynhau pêl-droed, cerddoriaeth a diwylliant o fewn ein cymunedau lleol?
Mae CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dychwelyd i’r cymunedau a gefnogodd ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn 2022, gyda gigs, sgyrsiau a gweithgareddau cymunedol yn cael eu cynnal ym mhob cornel o Gymru - o’n prif wyliau Cymreig, i glybiau pêl-droed lleol!
Edrycha ar ein rhestr digwyddiadau i weld be sydd ymlaen yn dy ardal di.
Gorau Chwarae Cyd Chwarae.